Lleoliadgwaith: Ledled Sir Conwy
Ymunwch â thîm ymroddgar a chefnogol gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ledled Conwy.
Yn y swydd werthfawr hon, byddwch yn rhan o dîm cryf a chefnogol, ac yn darparu arweiniad a chefnogaeth ymarferol i ddarparwyr gofal plant a theuluoedd o fewn rhaglen Gofal Plant i Rai Dwy Oed a Ariennir gan Lywodraeth Cymru. Byddwch yn chwarae rôl bwysig o ran helpu teuluoedd i gael mynediad at ofal plant o ansawdd uchel a chefnogi plant wrth iddynt ddechrau eu taith yn y blynyddoedd cynnar.
Byddwch yn gweithio mewn Canolfan i Deuluoedd ochr yn ochr â Thimau Cymorth i Deuluoedd Conwy ac yn teithio ledled Sir Conwy i ddarparu cefnogaeth i deuluoedd a darparwyr gofal plant.
Rydym yn chwilio am rywun sydd: • Â phrofiad o greu amgylchedd gofalgar, diogel a difyr i blant ifanc• Yn hyderus wrth gefnogi teuluoedd wrth i’w plant ddechrau ar eu siwrnai gofal plant• Yn deall pwysigrwydd cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel i blant cyn ysgol• Profiad o gefnogi cynnydd a datblygiad plant drwy asesiad yn seiliedig ar arsylwi ar weithgareddau dyddiol plant • Yn meddu ar wybodaeth dda am ddatblygiad ac addysg plant• Yn gallu cefnogi a hyrwyddo datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu plant• Yn mwynhau gweithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr i gefnogi cynnydd plant yn y cartref
Os ydych yn frwd dros gefnogi darparwyr gofal plant, plant ifanc a’u teuluoedd ac eisiau bod yn rhan o wasanaeth sydd wir yn gwneud gwahaniaeth, byddem yn falch o glywed gennych.
Mae gallu arwain gweithgareddau i blant a sgwrsio’n rhwydd gyda theuluoedd a darparwyr gofal plant yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer un swydd ac mae gallu arwain gweithgareddau i blant a chynnal sgyrsiau sylfaenol gyda theuluoedd a darparwyr gofal plant yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd arall.
Bydd penodiad i'r swydd hon yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Helen Lawson, Rheolwr Cefnogi Partneriaeth Gofal Plant ( 01492 576381 / helen.lawson@conwy.gov.uk )
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn Hanfodol x1 a Dymunol x1 ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.