Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Ffynnwch fel gweithiwr cymdeithasol mewn amgylchedd sy'n rhoi'r amser, y gefnogaeth a'r ymddiriedaeth broffesiynol i chi wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl.
Ymunwch â Thîm Asesu a Chefnogi Conwy a dewch yn rhan o wasanaeth cefnogol ac uchelgeisiol, gyda llwythi achosion dichonadwy, rheolwyr hygyrch a chefnogaeth aml-asiantaeth gref i’ch helpu i ganolbwyntio ar waith ystyrlon gyda phlant a theuluoedd.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni
• Llwythi achosion dichonadwy, wedi'u teilwra i'ch profiad a'ch datblygiad • Pythefnos naw diwrnod a chyfleoedd gweithio hyblyg • Goruchwyliaeth ffurfiol reolaidd a chefnogaeth rheoli hygyrch o ddydd i ddydd • Taliad croeso o £3,300, a delir mewn dau randaliad, yn amodol ar delerau ac amodau • Llwybrau datblygu proffesiynol a gyrfaol clir • Mynediad at gydweithwyr arbenigol a gwasanaethau i gefnogi gwaith uniongyrchol effeithiol• Cefnogaeth fentora un-i-un
Newydd gymhwyso? Byddwch yn derbyn cefnogaeth wedi’i strwythuro wrth i chi fagu hyder, meithrin eich barn broffesiynol a'ch profiad.Ydych chi eisoes yn brofiadol? Byddwn yn cydnabod y sgiliau a gyfrannwch, ac yn eich cefnogi i barhau i ddatblygu drwy ddysgu arbenigol, cyfleoedd arwain a llwybrau gyrfa clir.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Fel rhan o'n Tîm Asesu a Chymorth byddwch yn meithrin perthnasoedd pwrpasol gyda phlant a theuluoedd, yn cynnal asesiadau sy'n seiliedig ar gryfderau, yn datblygu ac yn adolygu cynlluniau, yn cyfrannu at wneud penderfyniadau diogelu ac yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner. Cewch gyfleoedd i wneud gwaith uniongyrchol ystyrlon a defnyddio eich barn broffesiynol i helpu teuluoedd i wneud newidiadau cynaliadwy.
Byddwch yn rhan o wasanaeth sydd wedi ymrwymo i gryfhau teuluoedd, lleihau'r angen i blant ddod o dan ofal lle bynnag y mae'n ddiogel gwneud hynny, a sicrhau bod pob plentyn yn cael y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir.
Cefnogaeth arbenigol o’ch cwmpas
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â:
• Gweithwyr ymyriadau teuluol sefydledig• Seicolegwyr mewnol• Therapyddion Galwedigaethol Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig• Gweithwyr therapiwtig• Ein Tîm Cryfhau Teuluoedd sydd wedi ennill gwobrau• Cefnogaeth allgymorth preswyl
Mae hyn yn golygu na fydd disgwyl i chi reoli anghenion teuluol cymhleth ar eich pen eich hun. Cewch fynediad at wybodaeth arbenigol a chymorth ymarferol sy'n eich helpu i gadw ffocws clir ar y plentyn.
Gan weithio o'n swyddfeydd modern, cynllun agored yng Nghoed Pella, Bae Colwyn, byddwch yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg, Tai, Gwasanaethau i Oedolion a gwasanaethau allweddol eraill. Mae'r amgylchedd gwaith clos hwn yn cefnogi perthnasoedd cryfion, ymarfer cydgysylltiedig a chanlyniadau gwell i deuluoedd.
Amdanoch chi
Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol cydnabyddedig a bod yn gymwys i gofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddwch wedi ymrwymo i ymarfer sy'n seiliedig ar berthnasoedd ac sy'n canolbwyntio ar y plentyn, yn gallu gwneud penderfyniadau proffesiynol cadarn ac yn hyderus yn gweithio ar y cyd â theuluoedd, cydweithwyr ac asiantaethau partner.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan Weithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso a rhai profiadol. Yn bwysicaf oll, rydym yn chwilio am bobl fyfyriol, trugarog ac sy’n ymroddedig i sicrhau canlyniadau cadarnhaol a pharhaol i blant.
Oes gennych chi ddiddordeb, ond eisiau gwybod mwy cyn gwneud cais?
Rydym yn deall fod newid swydd yn benderfyniad pwysig. Am sgwrs anffurfiol a chyfrinachol am y tîm, y rôl neu'r gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â Mark Devereux, Rheolwr Adain, ar 01492 575259 neu yn Mark.devereux@conwy.gov.uk
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Mark Devereux, Rheolwr Adain (Mark.devereux@conwy.gov.uk / 01492575259)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.