Lleoliad gwaith: Coed Pella, Colwyn Bay
Ymunwch â’n Tîm Brwdfrydig – Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn i Fywydau Pobl Ifanc!
Yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, rydym yn falch o fod yn awdurdod uchelgeisiol ac arloesol yng nghalon Gogledd Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau.
Mae ein Gwasanaeth Anabledd Integredig yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol ymroddedig a charedig i ymuno â’n tîm bywiog, gan gefnogi plant a phobl ifanc hyd at 25 oed.
Mae hon yn fwy na swydd – mae’n gyfle i rymuso pobl ifanc ag anableddau i fyw bywydau llawn ac ystyrlon. Byddwch yn gweithio’n agos gyda theuluoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol, a phartneriaid addysg i greu cynlluniau cymorth wedi’u teilwra sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i bob unigolyn.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol yn ein tîm, byddwch yn:• Hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan helpu pobl ifanc i ddatblygu eu potensial a chyflawni eu nodau.• Bod yn rhan o wasanaeth gwirioneddol integredig, gan weithio law yn llaw ag Iechyd ac Addysg i ddarparu cymorth cyfannol.• Llunio perthnasoedd cryfion a llawn ymddiriedaeth sy’n meithrin annibyniaeth, cynhwysiant a dewis.• Ymuno â thîm sy’n gwerthfawrogi arloesedd, cydweithredu a charedigrwydd.Rydym yn chwilio am rywun gyda gweledigaeth, egni ac empathi - rhywun sy’n credu yng ngrym posibiliadau ac sy’n barod i helpu llunio dyfodol mwy disglair.
Pam Ymuno â Ni?Rydym yn credu mewn cefnogi ein staff gymaint ag yr ydym yn cefnogi ein cymunedau. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl:• Polisi gweithio hybrid – mwynhewch hyblygrwydd cael gweithio gartref yn ystod yr wythnos.• Diwylliant sy’n gwerthfawrogi cydbwysedd bywyd a gwaith, ymddiriedaeth ac ymreolaeth.• Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, dilyniant gyrfa a chymorth parhaus.• Gwobrau Conwy a buddion cyflogaeth eraill.Os ydych chi’n barod i gael effaith barhaol a datblygu eich gyrfa mewn amgylchedd cefnogol ac arloesol, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Catrin Owen, Rheolwraig Tîm ( 01492577296 / catrin.owen1@conwy.gov.uk )
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.