Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Colwyn Bay
Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol ym maes gofal cymdeithasol sy’n chwilio am gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau oedolion ag anableddau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ceisio penodi Rheolwr Adain uchelgeisiol ac ymroddedig i arwain ein Gwasanaeth Anabledd Oedolion ar gyfer pobl 25 oed a throsodd a’n Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal. Mae hon yn swydd arwain allweddol o fewn y Gwasanaethau Anabledd, gyda chyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gefnogi pobl i gyflawni mwy o annibyniaeth, gwydnwch a chanlyniadau cadarnhaol.
Fel Rheolwr Adain, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol i dîm amrywiol, gan sicrhau bod gwasanaethau’n ddiogel, yn effeithiol ac yn arloesol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda phartneriaid iechyd, cydweithwyr mewnol, teuluoedd, darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid rhanbarthol i lunio gwasanaethau a sicrhau gwelliant parhaus.
Y RôlByddwch yn:• Arwain a rheoli’r Adran Anabledd Oedolion a’r Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal.• Darparu arweinyddiaeth a goruchwyliaeth i Reolwyr Tîm ac aelodau staff.• Sicrhau cydymffurfiaeth â chyfrifoldebau statudol a safonau gwasanaeth.• Hyrwyddo ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.• Arwain mentrau gwella a thrawsnewid gwasanaethau.• Rheoli cyllidebau ac adnoddau’n effeithiol.• Datblygu partneriaethau cryf ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector.• Dylanwadu ar gynllunio strategol a gweithgarwch comisiynu.
Amdanoch ChiRydym yn chwilio am rywun sydd:• Yn meddu ar gymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Cymdeithasol, Therapi Galwedigaethol, Nyrsio neu broffesiwn gofal cymdeithasol perthnasol.• Â phrofiad sylweddol o weithio gydag oedolion ag anableddau, gan gynnwys pobl ag anghenion cymhleth.• Â thystiolaeth o brofiad o arwain a rheoli o fewn gwasanaethau gofal cymdeithasol.• Yn dangos sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu a gweithio mewn partneriaeth.• Â phrofiad o ddiogelu, llywodraethu, rheoli gweithlu a datblygu gwasanaethau.• Yn ymrwymedig i hyrwyddo annibyniaeth, cynhwysiant a chanlyniadau cadarnhaol i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau.
Pam Ymuno â Ni?• Ymunwch â gwasanaeth blaengar a chefnogol sy’n canolbwyntio ar wella bywydau pobl.• Cyfle i ddylanwadu ar gyfeiriad strategol ac arloesedd gwasanaethau.• Gweithio mewn amgylchedd integredig a chydweithredol.• Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau oedolion ag anableddau a’u teuluoedd.
Os ydych yn angerddol am arwain newid, datblygu pobl a gwella canlyniadau i oedolion ag anableddau, hoffem glywed gennych.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Ffion Edwards-Roberts, Rheolwr Gwasanaeth Anableddau, 01492 575745, Ffion.edwards-roberts@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.