Lleoliad gwaith: Ledled y Sir
Mae TRAC Conwy yn chwilio am aelodau tîm brwdfrydig i weithio gyda phobl ifanc 11-16 oed mewn lleoliad ysgol. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET (Ddim mewn Addysg, Hyfforddiant na Chyflogaeth).
Byddwch yn gweithio'n agos gyda dysgwyr sydd wedi'u nodi fel rhai sydd angen cymorth ac ymyrraeth ychwanegol yn ymwneud â'u hanghenion iechyd, cymdeithasol, ymddygiadol ac emosiynol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr ac asiantaethau partner i ysbrydoli, cefnogi ac annog pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial a chynyddu eu cyfleoedd o addysg bellach a chyflogaeth ôl-16.
Wedi'ch lleoli mewn ysgol uwchradd yng Nghonwy, byddwch yn ymuno â thîm sefydledig sy'n gweithio gyda'i gilydd mewn ysgolion uwchradd ar draws sir Conwy. Efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau eraill lle mae'r angen yn codi.
Gyda chymwysterau proffesiynol perthnasol a dealltwriaeth fanwl o ddiogelu plant bydd gennych brofiad uniongyrchol o weithio gyda phobl ifanc 11-16 oed, y gallu i weithio'n effeithiol gydag asiantaethau partner ac ymrwymiad i ragoriaeth. Rydym yn cynnig y cyfle ar gyfer hyfforddiant a datblygiad o fewn eich rôl.
Gan fod Gonwy yn ardal gwledig mawr, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Tracey Owen, Ymarferydd Ieuenctid Ardal / Arweinydd Prosiect Cynnydd ac YEPF (tracey.owen1@conwy.gov.uk / 01492 577117)
Gofynion y Gymraeg:
Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.