Lleoliad gwaith: Gweithio o Gartref/Coed Pella
Oherwydd ymddeoliad, mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Maethu Unigolion Cysylltiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol amser llawn.
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ein nod yw sicrhau bod Gofalwyr Maeth Unigolion Cysylltiedig yn cael eu cydnabod fel gweithwyr proffesiynol a'u bod yn cymryd rhan weithredol pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch y plant sydd yn eu gofal. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod Gofalwyr Maeth Unigolion Cysylltiedig yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir er mwyn galluogi'r plant a'r bobl ifanc yn eu gofal i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Rydym yn cyflawni hyn drwy gydgynhyrchu ein gwasanaeth gyda Gofalwyr Maeth er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth yn adlewyrchu eu hanghenion. Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol sy'n rhannu ein hangerdd dros ofal Unigolion Cysylltiedig.
Yn eich rôl fel Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio, byddwch yn darparu cymorth drwy oruchwyliaeth fyfyriol, Adolygiadau Blynyddol, asesiadau, a chyfleoedd dysgu a datblygu i Ofalwyr Maeth Unigolion Cysylltiedig, gan helpu i greu amgylcheddau diogel, sefydlog a meithringar i blant nad ydynt yn gallu byw gyda'u rhieni biolegol.
Er mwyn cyflawni hyn, bydd gennych hanes profedig o gydweithio'n effeithiol nid yn unig gyda Gofalwyr Maeth Unigolion Cysylltiedig, Plant a Theuluoedd, ond hefyd gyda'r holl weithwyr proffesiynol eraill sy'n rhan o'r tîm o amgylch y plentyn. Byddwch yn drefnus, yn gallu blaenoriaethu eich gwaith i gwrdd ag amserlenni, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r Tîm Maethu Cyffredinol, felly bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys Dyletswydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau Recriwtio a Chadw, Cyfarfodydd Tîm ymgysylltiol a Diwrnodau Datblygu.
Er mwyn eich cefnogi yn eich rôl fel Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol, nid yn unig y byddwch yn ymuno â thîm cyfeillgar a sefydledig, ond byddwch hefyd yn derbyn rhaglen sefydlu gadarn, goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd, cyfleoedd hyfforddi rhagorol ac amrywiol, yn ogystal â chymorth a mentora ychwanegol i ddatblygu eich sgiliau. Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd gwerth chweil sy'n hyrwyddo dysgu, lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae'n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu teithio'n rheolaidd i ymweld â chartrefi Gofalwyr Maeth Unigolion Cysylltiedig, gan gynnwys teithio i ac o leoliadau anghysbell ar fyr rybudd.
Gan fod y tîm yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd uchod.
Yn gyfnewid, gallwch ddisgwyl:
• Hawl hael i wyliau blynyddol• Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol• Gostyngiadau ac arian yn ôl mewn siopau lleol ar y stryd fawr• Cyfle i brynu cynllun arian iechyd i hawlio costau deintyddol, sbectol, therapïau ac ati• Mynediad am ddim, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, at raglen cymorth i weithwyr ar gyfer cyngor a chefnogaeth.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Elin Dickin, Rheolwr Adain - Adnoddau Gofal ( Elin.dickin@conwy.gov.uk / 01492 576357)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.