Lleoliad gwaith: Clybiau Ieuenctid Abergele x 2 a Llanddulas x 1
Ymunwch â thîm ein Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn!
A ydych chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc? Mae’n bleser gan Wasanaeth Ieuenctid Conwy groesawu Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid brwdfrydig, egnïol a thosturiol sy’n meddu ar y sgiliau perthnasol i helpu i ddarparu rhaglen ddynamig o weithgareddau ac addysg anffurfiol.
Gan weithio dan arweiniad y Gweithiwr Mewn Gofal, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn creu profiadau ystyrlon i bobl ifanc, gyda chefnogaeth tîm o gydweithwyr ymroddedig. Byddwch yn helpu i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol a pharchus gyda phobl ifanc ac yn cyfrannu at gynnal safonau uchel ar draws bob agwedd o’n gwasanaeth.
Fel rhan o’ch cyfrifoldebau dyddiol, byddwch hefyd yn helpu i sicrhau fod y ddarpariaeth yn rhedeg yn esmwyth drwy ddarparu’r dyletswyddau gweinyddol hanfodol sy’n briodol i lefel y swydd dan arweiniad y Gweithiwr Mewn Gofal.Bydd oddeutu 80% o’ch oriau gwaith yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc wyneb yn wyneb o fewn darpariaeth ddynodedig, gan ymgysylltu gyda phobl ifanc yn uniongyrchol yn ogystal â’u hysbrydoli.Cynhelir y mwyafrif o’r gwaith sydd ynghlwm â’r swydd hon gyda’r nos, gyda rhywfaint o waith ar benwythnosau. Rydym yn gwerthfawrogi hyblygrwydd i fodloni anghenion amrywiol y bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Chris Gledhill, Uwch Ymarferydd Gwaith Ieuenctid (chris.gledhill@conwy.gov.uk / 01492 575508)
Gofynion y Gymraeg:
Mae’r gallu i gyfarthrebu yn Gymraeg er mwyn darparu cefnogaeth unigol i bobl ifanc a chynorthwyo i ddarparu’r rhaglen yn gyffredinol yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi ac yn ddymunol ar gyfer y swyddi eraill. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.