Lleoliad gwaith: Bwthyn y Ddol / Ingleside, Bae Colwyn
Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, fe hoffem i chi ymuno â’n tîm cyfeillgar i arwain tîm cefnogi busnes o fewn uned breswyl i blant. Byddwch yn unigolyn llawn cymhelliant gydag ymagwedd gadarnhaol, ac yn gallu sicrhau bod eich cydweithwyr ar y rheng flaen yn cael cymorth i gyflawni eu dyletswyddau drwy wasanaeth cymorth busnes medrus a dibynadwy.
Mae hon yn swydd addas i chi os gallwch chi weithio mewn amgylchedd prysur, gan weithio mewn tîm a’i reoli, a dangos eich bod yn unigolyn trefnus sy’n hoffi pobl gyda llygad dda am fanylion. Bydd gofyn i chi hefyd hyrwyddo a chynnal darpariaeth weinyddol o safon uchel.
Cymerwch olwg ar y rhestr o gyfrifoldebau a chymwysterau yn y swydd-ddisgrifiad a’r manylion am yr unigolyn. Er mai hon yw ein rhestr ddelfrydol, byddwn yn barod i ystyried ymgeiswyr sy’n gallu dangos digon o brofiad, talent a menter.
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd, a gallwn gynnig amryw o drefniadau gweithio’n hyblyg, gan gynnwys dull cyfunol o weithio gartref ac mewn adeilad swyddfa o’r radd flaenaf ym Mae Colwyn, y gellir eu trafod yn y cyfweliad.
Os yw’r swydd a’r lleoliad at eich dant chi, cliciwch i wneud cais rŵan.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nick Appleton, Rheolwr Cofrestredig (01492 574515 / nick.appleton1@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.