Lleoliad gwaith: Venue Cymru, Llandudno
Venue Cymru yw’r ganolfan gelfyddydau a digwyddiadau brysuraf yn y rhanbarth, ac mae ganddi theatr sy'n eistedd 1,500, arena â lle i 2,500 ac ystod lawn o ystafelloedd cynadledda a digwyddiadau o’r safon uchaf. Rydym yn cyflwyno rhaglen gelfyddydau amrywiol, o sioeau’r West End i’n perfformiadau ein hunain gan ein Pobl Ifanc Greadigol, ac yn gwesteio cynadleddau a digwyddiadau proffil uchel ledled y flwyddyn. Fe fydd y swydd wedi’i lleoli yn Venue Cymru yn bennaf ond efallai y bydd angen gweithio yn Theatr Colwyn, Bae Colwyn sydd yn gyfleuster â 400 o seddi sy’n hwyluso rhaglen brysur o sioeau ffilm a chynyrchiadau byw. Rydym rŵan yn chwilio am Goruchwylydd Gwasanaethau Blaen y Tŷ i ymuno â’n tîm gwasanaethau blaen y tŷ.
Bydd Deiliad y Swydd yn cefnogi Rheolwr Gwasanaethau Blaen y Tŷ i sicrhau fod y gwasanaeth bwyd a diod a gweithrediadau blaen y tŷ yn rhedeg yn esmwyth
Mae angen unigolyn llawn cymhelliant arnom sydd â sgiliau cyfathrebu a rheoli pobl rhagorol a phrawf o sgiliau llythrennedd a rhifedd. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o weithio yn y diwydiant Lletygarwch, gan gynnwys gweithrediadau blaen y tŷ a chynnal gwleddoedd, a gwybodaeth o ddeddfwriaethau hylendid bwyd ac Iechyd a Diogelwch perthnasol a deddfau trwyddedu.
Mae profiad blaenorol o drin arian a dealltwriaeth o systemau rheoli stoc yn hanfodol.
Yr oriau gwaith ar gyfartaledd fydd 37 awr yr wythnos ar sail oriau blynyddol a bydd angen gweithio gyda'r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau'r banc.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Ben Hankey, Rheolwr Gwasanaethau Blaen Tŷ (01492 879771 / ben.hankey@venuecymru.co.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg er mwyn cyfathrebu gyda’r cyhoedd yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.