Gwasanaeth: Theatrau a'r Ganolfan GynadleddaAdran: Technegol ac Iechyd a Diogelwch
Venue Cymru
Venue Cymru yw Canolfan Adloniant a Chynadledda prysuraf y rhanbarth. Mae'r Venue yn cynnwys awditoriwm 1500 sedd, Arena sydd a lle i 2500 o bobl sefyll ynghyd a chyfleusterau Cynadledda ac Arddangos mawreddog. Rydym nawr yn recriwtio ar gyfer dau Dechnegwr Cyffredinol cymwys i ymuno a'n tim Technegol pwrpasol.
Wrth gefnogi'r tim technegol aml-ddisgybledig, bydd deiliad y swydd yn cyflawni pob agwedd ar y swyddogaeth drydanol a thechnegol. Mae'n hanfodol bod gennych wybodaeth am systemau goleuo, sain, A.V. a llwyfan.
Rhaid i ymgeiswyr fod a gallu o ran TG ac mae profiad o weithio gyda phecynnau TG Microsoft Office a gwybodaeth fanwl am offer clyweledol a thelegyfathrebu yn hanfodol. Byddai profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd technegol prysur yn fantais.
Mae'r rhain yn swyddi rhan amser dros dro am gyfnod o 12 mis i ddechrau. Rydym yn gobeithio gwneud y swyddi yn barhaol yn amodol ar ofynion y gyllideb ar ol y cyfnod hwn. Mae'r swyddi yn galw am bobl frwdfrydig sy'n gallu gweithio gyda'r nos, ar benwythnosau, Gwyliau Banc a sifftiau helaeth. Bydd yr oriau gwaith yn cael eu cynllunio ar sail rota yn dibynnu ar ofynion y rhaglen a bydd ar sail oriau blynyddol gan weithio am gyfartaledd o 20 awr yr wythnos drwy gydol y contract.
I sicrhau darpariaeth ddwyieithog ddigonol o fewn yr adain, mae'r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol a'r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn ddymunol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: John Owen - 01492 879771
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn