Gwasanaeth: Yr Amgylchedd, Ffyrdd a ChyfleusterauAdran: Systemau Gwybodaeth Rheoli
Mae Cyngor Conwy'n chwilio am unigolyn gydag hunan-gymhelliant i gefnogi adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau i ddarparu cefnogaeth weithredol a thechnegol i'r adain Systemau Gwybodaeth Reoli.
Bydd y prif ddyletswyddau'n cynnwys:
* Cyfrannu at ddatblygiad y Gr?p Systemau Gwybodaeth Reoli. * Cyfrannu at reoli data adrannol a helpu i sicrhau bod data a chofnodion cynhwysfawr yn ymwneud a'r gwasanaeth yn cael eu cadw. * Hyfforddi defnyddwyr newydd i ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Reoli'r AFfCh. * Darparu cymorth system i ddefnyddwyr dyfeisiau symudol. * Darparu cefnogaeth rheoli prosiect.
Bydd arnoch chi angen safon dda o addysg gyffredinol, h.y. Lefel 'A', neu gymhwyster uwch neu gyfwerth. Mae sgiliau TG cryf, yn arbennig o ran rhaglenni Microsoft Office, yn hanfodol ac mae'n rhaid i ymgeiswyr fod a phrofiad o gefnogi systemau TG a gwybodaeth am hynny. Mae'r gallu i gyfathrebu i lefel uchel, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hanfodol. Mae profiad o 'GIS' neu 'CAD' yn ddymunol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Sophie Birchall-Rogerson 01492 574158
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn