Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid Digidol
Mae'r Gwasanaeth Trawsnewid TG Corfforaethol a Thrawsnewid Digidol yn bwriadu penodi dau Ddadansoddwr Systemau Gwybodaeth i gefnogi gweithrediad Rhaglen Foderneiddio'r Cyngor, gan ganolbwyntio'n benodol ar y fanyleb a chyflenwi prosesau a systemau sy'n delio a chwsmeriaid. I ddechrau, y rol fydd hwyluso gweithdai i gofnodi prosesau a llif gwaith sydd eisoes yn bodoli, gan nodi cyfleoedd ar gyfer newid a chyflwyno technoleg i wella profiad y cwsmer. Yn arwain ymlaen o hyn, gall ffyrdd newydd o weithio gael eu dylunio a bydd deiliad y swydd yn nodi gofynion i gyflwyno ac ymgorffori'r newidiadau hyn. Byddai'r gallu i weithredu a chefnogi systemau TG yn fantais.
Sylwch fod y swydd ar gontract Cyfnod Penodol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu secondio dderbyn cymeradwyaeth gan eu rheolwr atebol.
Mae'n rhaid i chi fod yn llawn cymhelliant, yn drefnus, yn gyfathrebwr ardderchog gyda'r gallu i weithio i derfynau amser - yn unigol ac fel rhan o dim.
Bydd gofyn i chi weithio ar brosiectau Corfforaethol a Gwasanaeth gyda'r nod o foderneiddio'r ffordd y mae'r Cyngor yn gweithio, darparu atebion technoleg arloesol i leihau costau, sicrhau effeithlonrwydd a gwella darpariaeth gwasanaeth.
Dylech feddu ar brofiad a sgiliau amlwg yn y canlynol: Rheoli Prosiectau; Dadansoddi Busnes neu Systemau, Dylunio Systemau, Datblygu Systemau (e.e. integreiddio, sgriptio neu echdynnu/mewnfudo data), Gweithredu, Cefnogi a/neu Weinyddu Cronfa Ddata
Mae cymhwyster HNC / Gradd mewn Cyfrifiadureg neu bwnc cysylltiedig a Systemau Busnes yn ddymunol.
Mae sgiliau cyfathrebu da yn y Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn hanfodol ac mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn ddymunol wrth gynorthwyo'r Adran i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i gleientiaid.
Cysylltwch a Sarah Davies, Rheolwr E-lywodraeth Corfforaethol, ar 01492 576290 i gael rhagor o wybodaeth.
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn