Gwasanaeth: TG CorfforaetholAdran: Gwelliant a Pherfformiad Busnes
Mae hon yn swydd cyfnod penodol o 18 mis ac oherwydd natur y cyllid ar gyfer prentisiaethau gan Lywodraeth Cymru, dim ond ceisiadau gan ymgeiswyr rhwng 16 a 24 oed y gallwn eu hystyried, a hefyd y rhai na addysgwyd hyd at safon gradd.
Rydym ni wedi creu cyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig sy'n gallu canolbwyntio ar gwsmeriaid ymuno a Desg Gwasanaeth TG Conwy fel Prentis Modern.
Rydym ni'n chwilio am chwaraewr tim brwdfrydig ac ymroddedig sy'n awyddus i symud ymlaen a chynorthwyo wrth gyflwyno gwasanaethau TG i 2500+ o ddefnyddwyr y Cyngor wrth i ni foderneiddio'r ffordd rydym ni'n gweithio. Er y byddwch chi'n gweithio fel rhan o dim y Ddesg Gwasanaeth, byddwch hefyd yn ennill profiad ar draws meysydd TG eraill fel rhan o'ch hyfforddiant.
Mewn partneriaeth a Grwp Llandrillo Menai byddwch yn gweithio tuag at NVQ lefel 2 mewn TG, Meddalwedd, Gwe a Thelathrebu.
Byddwch yn meddu ar 3 TGAU (neu gyfwerth) mathemateg, Saesneg a phwnc cysylltiedig a chyfrifiaduron/gwyddoniaeth. Byddwch hefyd yn gallu gweithio'n unigol ac fel rhan o dim i ddarparu gwasanaeth TG ardderchog i'n cwsmeriaid.
Mae manylion llawn am y swyddi i'w cael yn y dogfennau Swydd-ddisgrifiad a Manylion am yr Unigolyn.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Debbie Anchors, Rheolwr Busnes a Pherfformiad TG, 01492 576035
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn