Ail hysbysebiad or swydd yw hon.
Gwasanaeth: Yr Amgylchedd, Ffyrdd a ChyfleusterauAdran: Cludiant
Mae Cyngor Conwy'n chwilio am Beiriannydd Cerbydau Nwyddau Trwm cymwys i gynorthwyo i gynnal a chadw fflyd y sir o gerbydau gweithredol ac ymateb pan fyddant yn torri i lawr a'u trwsio yn y depo gweithredol neu unrhyw le yn y fwrdeistref sirol.
Bydd y prif ddyletswyddau'n cynnwys:
Cynnal, gwasanaethu, trwsio cerbydau fflyd y sir ac offer ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol.
Sicrhau bod yr holl waith a wneir ar fflyd y sir yn diwallu gofynion y drwydded weithredol a roddwyd gan y Weinyddiaeth Gludiant.
Sicrhau bod yr holl gerbydau, peiriannu ac offer yn diwallu anghenion deddfwriaethol a gweithredol y gwasanaethau
Darparu cyngor cywir, ystyrlon a chyson i gwsmeriaid.
Gweithredu system patrwm gweithio shifftiau i sicrhau'r ymateb gorau i anghenion cwsmeriaid.
Bydd angen addysg o safon dda gyda sgiliau llythrennedd clir a byddwch wedi'ch hyfforddi i isafswm o NVQ Lefel 4 Peirianneg Moduron neu profiad gyfwerth a Thrwydded Cerbydau Nwyddau Trwm/Cerbydau Nwyddau Mawr Dosbarth 1-2.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Andrew Dawson - 01492 575966
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn