Gwasanaeth: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac AddysgAdran: Gwasanaethau Pobl H?n a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty
Cafodd Llys Elian ei achredu yn ddiweddar fel gwasanaeth Glöyn Byw 'Dementia Care Matters'.
Mae Llys Elian yn gartref preswyl 27 gwely ar gyfer pobl h?n gyda Dementia, mae yna dri th? ar gyfer byw ynddynt yn barhaol ac un t? gofal seibiant a chanolfan ddydd.
Rydym yn dymuno penodi Rheolwr Gofal ymrwymedig a brwdfrydig i gefnogi'r Rheolwr Cofrestredig i arwain a rheoli'r Gwasanaeth.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn empathetig, yn angerddol am ddarparu gofal rhagorol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, trefnu ac arwain da, a rhaid iddynt fod yn ddigynnwrf, yn hyblyg ac yn gallu addasu i sefyllfaoedd a blaenoriaethau sy'n newid.
Mae cyfrifoldebau fel Rheolwr Gofal yn cynnwys sicrhau bod y gefnogaeth a ddarperir o'r safon uchaf ac yn cydymffurfio a holl reoliadau a gwneud yn si?r bod safonau yn cael eu cynnal, gan gyflawni hyn drwy ddatblygu a chefnogi tim ymroddedig o staff.
Bydd disgwyl i chi fod yn gyfathrebwr da a byddwch yn cysylltu ag amrywiaeth o bobl gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, y teulu a ffrindiau, gwirfoddolwyr yn ogystal a gweithwyr gofal proffesiynol eraill megis meddygon teulu a gweithwyr cymdeithasol.
Fel y Rheolwr Gofal, mae'n rhaid i chi ddangos y gallu i sicrhau diogelwch y defnyddwyr gwasanaeth, staff a'r adeilad drwy sicrhau ymwybyddiaeth a hyder yn y gweithdrefnau a'r protocolau argyfwng y cytunwyd arnynt.
Mae'r profiad o lunio cynlluniau cyflwyno gwasanaeth ac asesiadau risg yn hanfodol.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol; mae'r gallu i ysgrifennu'n Saesneg yn hanfodol ac yn ddymunol yn Gymraeg. Bydd gofyn i chi ymgymryd a gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Christine Williams - 01492 577749
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn