Ail hysbysebiad o'r swydd yw hwn ac nid oes angen I ymgeiswyr blaenorol wneud cais.
Gwasanaeth: Datblygu CymunedolAdran: Diwylliant a Gwybodaeth
Ydych chi'n mwynhau cyfarfod a phobl o bob oed? Ydych chi'n frwdfrydig dros lyfrau a darllen? Oes gennych chi sgiliau TG da a'r gallu i ymrwymo i ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid? Ydych chi'n allblyg, yn hyblyg ac yn llawn egni?
Os felly, efallai y bydd gennych chi ddiddordeb yn y swydd hon. Rydym ni'n chwilio am berson hyblyg i fod yn gymhorthydd llanw ar gyfer llyfrgelloedd y sir.
Dylai ymgeiswyr fod a safon dda o addysg i lefel TGAU (neu gydradd) a sgiliau TGCh da.
Mae'r gwasanaeth yn delio'n uniongyrchol a'r cyhoedd, felly mae'r gallu i sgwrsio'n gartrefol gyda chwsmeriaid yn Gymraeg yn hanfodol.
Rydym yn hyrwyddo mynediad cyfartal i'n gwasanaethau ar gyfer pawb yn y gymuned a byddem yn croesawu ceisiadau gan bob carfan nad ydynt wedi eu cynrychioli'n ddigonol o fewn ein tim ar hyn o bryd, gan gynnwys dynion a phobl ifanc. Penodir ar sail teilyngdod. Bydd yr oriau gwaith ar sail ad hoc ac o bosibl ar fyr rybudd, bydd yn cynnwys gweithio yn y dydd, gyda'r nos ac ar ddydd Sadwrn. Rydym yn arbennig yn chwilio am staff sydd ar gael i weithio yng ngwyliau tymor ysgol.
Oherwydd natur y gwaith yma, bydd gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn angenrheidiol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Myfanwy Jones, 01492 577505.
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn