Ail hysbysebiad o'r swydd yw hwn ac nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais gan y byddant yn cael eu hystyried yn awtomatig.
Gwasanaeth: Gwasanaethau CorfforaetholAdran: Ysgrifenyddiaeth y Prif Weithredwr
Gwahoddir ceisiadau am y swydd Cymhorthydd Gweinyddol yn Ysgrifenyddiaeth y Prif Weithredwr. Mae hwn yn gyfle secondiad dros gyfnod mamolaeth, a bydd yn ddarostyngedig i gontract cyfnod penodol o 9 mis.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cymorth gweinyddol effeithiol ac effeithlon i'r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Strategol ac Adran y Gyfraith a Llywodraethu.
Bydd gennych sgiliau gweinyddol / ysgrifenyddol ardderchog, yn fedrus wrth reoli dyddiadur ac yn gofnodwr profiadol a chymwys.
Bydd hon yn rol gyffrous a heriol a dylai ymgeiswyr fod yn llawn cymhelliant, yn hyblyg ac yn gallu gweithredu mewn amgylchedd dynamig.
Mae'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Saesneg yn hanfodol a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Jaci Doran 01492 576015
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn