Gwasanaeth: Gwasanaeth Datblygu CymunedolAdran: Cymunedau yn Gyntaf
Ydych chi'n frwdfrydig am gymunedau a threchu tlodi yng Nghonwy? Rydym yn chwilio am weithiwr datblygu cymunedol profiadol a llawn cymhelliant i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau Cymunedau yn Gyntaf yng Nghonwy. Bydd deiliad y swydd yn sefydlu ac yn datblygu prosiectau i hyrwyddo cyfle ar draws y Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf, gan sicrhau bod pobl yn cael mynediad at ffurfiau perthnasol o gefnogaeth fydd yn eu helpu i wella eu cyfleoedd mewn bywyd a bywydau eu teuluoedd. Byddwch yn helpu i gynnal partneriaethau cryf ac adeiladol gyda thimau a sefydliadau eraill, a helpu i sicrhau ymgysylltu effeithiol a'r gymuned ar gyfer cymunedau o fewn yr Ardal Clwstwr.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch a Libby Duo - 01492 575509.
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn