Gwasanaeth: Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a DiogeluAdran: Iechyd Meddwl
Mae cyfle wedi codi i benodi Rheolwr Tim ar gyfer y Tim Iechyd Meddwl Cymunedol Roslin, a leolir yn Llandudno. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio o fewn y tim gofal eilaidd ac yn darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys goruchwylio staff a chefnogi staff i reoli llwyth achosion cymhleth, dyraniad(au) drwy'r pwynt mynediad sengl ac asesu fewn Iechyd Meddwl. Hefyd bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus i fod yn Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy neu'n barod i ymgymryd a'r hyfforddiant AMHP.
Rhaid i'r ymgeiswyr fod yn Weithwyr Cymdeithasol cymwys (CQSW, DipSW, Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol) a bod yn Weithwyr Cymdeithasol Cofrestredig.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn dymunol, oherwydd natur bersonol a sensitif y cyswllt gyda defnyddwyr gwasanaeth.
Gan fod ardaloedd gwledig eang yng Nghonwy, mae angen gallu gyrru a defnyddio car, neu gallu teithio ar draws yr ardal ar gyfer apwyntiadau.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Matt Morgan, Section Manager on 01492 860926
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn