Gwasanaeth: Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu Adran: Plant sy'n Derbyn Gofal
Mae gennym gyfle i recriwtio Weithiwr Cymdeithasol Mabwysiadu yng Nghonwy. Bydd deiliaid y swyddi yn cael eu secondio i asiantaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, fodd bynnag, bydd eu contract gyda Chonwy. Mae'r brif rol yn cynnwys asesu darpar fabwysiadwyr yn yr ardal leol a hefyd dod o hyd i deulu i blant sydd angen cartref parhaol drwy Fabwysiadu.
Mae hwn yn gyfle i ymuno a thim ymroddedig o fewn Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn darparu cefnogaeth ac anogaeth wych i ddysgu a datblygu arbenigedd mewn rhan unigryw o'r Gwasanaeth.
Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth broffesiynol, yn cael cyfle i rannu syniadau ymarfer mewn cyfarfodydd tim a chael cyfle i ddatblygu'r Gwasanaeth ymhellach.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Patricia Welsh, Rheolwr Tim/Einir Hinson, Rheolwr Gwasanaeth ar 01492 575111.
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn