Gwasanaeth Datblygu Cymunedol
Busnes a Menter
Rydym yn chwilio am aelod newydd ar gyfer ein tim i groesawu ymwelwyr, a chyfranogwyr cynadleddau a chyfarfodydd i brysurdeb Canolfan Fusnes Conwy, gan roi profiad cwsmer rhagorol ym mhob cam o'r broses gofal cwsmer.
Mae Canolfan Fusnes Conwy wedi'i hadeiladu yn bwrpasol ar gyfer hyfforddiant, digwyddiadau rhwydweithio busnes, cyfarfodydd a chynadleddau, a gyda gwasanaethau cefnogi busnes wrth law rydym yn cynnig ateb cyflawn i anghenion hyfforddiant, cyfarfodydd a datblygu busnes cwsmeriaid.
Byddai gennych swydd bwysig o ran sicrhau gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid a darparu amgylchedd cynorthwyol a chroesawgar i ymwelwyr a chymorth i drefnwyr cynadleddau. Byddwch hefyd yn gyfrifol am ymdrin yn effeithiol ag ymholiadau a chymryd archebion ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau.
Un o gyfrifoldebau allweddol y swydd fydd paratoi ystafelloedd ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd gan gynnwys offer cyflwyno a sicrhau bod y gwasanaethau allanol cysylltiedig fel arlwyo ac offer wedi'u harchebu ac yn cyrraedd ar amser.
Mae'r swydd yn un 37 awr yr wythnos; Dydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r gallu i weithio ambell i gyda'r nos yn ddymunol.
Os hoffech gyfle i fod yn rhan o dim cyfeillgar ac ymroddedig, cysylltwch a ni i gael pecyn cais.
canolfanfusnes@conwy.gov.uk
businesscentre@conwy.gov.uk
Robert Evans/ Nia Kirkham
01492 574510/574525
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn