Gwasanaeth: Theatrau a'r Ganolfan GynadleddaAdran: Economi a Lle
Venue Cymru yw Canolfan Adloniant a Chynadledda brysuraf y rhanbarth. Mae Venue Cymru yn cynnwys awditoriwm 1500 sedd, Arena gyda lle i 2500 sefyll yn ogystal a chyfleusterau Cynadledda ac Arddangos ardderchog. Rydym r?an yn chwilio am Raglennydd Artistig gwych i ymuno a'n tim ymroddedig.
Mae hon yn swydd heriol a diddorol, a bydd deiliad y swydd, drwy weithio'n agos a'r Rheolwr Cyffredinol, yn cynllunio ac yn rheoli rhaglen artistig Venue Cymru.
Fe ddylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau trafod gwych a'r gallu i fod yn ofalus iawn wrth wirio contractau. Fe ddylai ymgeiswyr hefyd fod yn rheolwyr prosiect cymwys a chreadigol ac yn gallu gweithio gydag amrediad o bobl a thrafod ystod o faterion yn effeithiol.
Bydd deiliad y swydd yn defnyddio systemau TG gan gynnwys Artifax a Tessitura.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ac mae'r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol.
Mae hon yn swydd llawn amser barhaol, 37 awr yr wythnos, gan gynnwys ar benwythnosau, nosweithiau a Gwyliau Banc.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Sarah Ecob - 01492 879771
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn