Gwasanaeth: Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a DiogeluAdran: Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Mae swydd wag sy'n cynnwys dwy rol ar gael yn y tim. Mae'r Tim Troseddu Ieuenctid yn bartneriaeth amlasiantaeth traws sirol sefydledig a llwyddiannus, sy'n gyfrifol am atal ieuenctid rhag troseddu ac am leihau aildroseddu.Byddwch yn unigolyn hunangymhellianol ac arloesol, sy'n mwynhau gweithio fel rhan o dim. Mae'r swydd angen gwybodaeth am weithio gyda phlant a phobl ifanc a phrofiad o hynny, a/neu wybodaeth am weithio gydag oedolion mewn sefyllfa Cyfiawnder Troseddol perthnasol a phrofiad o hynny. Mae'r tim yn defnyddio system gofnodi achosion gyfrifiadurol; felly, mae'n rhaid i chi fod a sgiliau prosesu geiriau da.
Bydd yr elfen gyntaf yn darparu:
Bydd un maes gwaith yn cynnwys asesu a goruchwylio troseddwyr ifanc nad ydynt wedi cael mechniaeth gan yr heddlu ac sy'n ymddangos o flaen y llysoedd remand. Byddwch yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y llysoedd ynadon lleol a Llys y Goron, a byddwch yn cyfrannu at ddatblygu arfer da a gweithdrefnau. Mae'r Tim Troseddu Ieuenctid yn benderfynol o ddarparu dewisiadau adeiladol, diogel a chadarnhaol yn lle remand mewn carchar lle bo hynny'n bosibl. Mae'r gallu I gyfathrebu yn Gymraeg yn fanteisiol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yr ail elfen yn:
Rheoli achosion pobl ifanc sy'n destun y Rhaglen Goruchwylio ac Arolygu Dwys i leihau troseddu mewn pobl ifanc risg uchel gydag anghenion cymhleth.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Sheila Lowe - 01492 523500
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn