Gwasanaeth: Yr Amgylchedd, Ffyrdd a ChyfleusterauAdran: Traffig a Rhwydwaith
Rydym yn chwilio am Reolwr Golau Stryd sydd a phrofiad rheoli profedig a gwybodaeth o'r datblygiadau diweddaraf o ran technoleg goleuo er mwyn arwain tim mewnol o staff technegol a gweithredol sydd a lefel uchel o sgiliau.
Bydd deilydd y swydd hon a chyfrifoldeb cyffredinol am berfformiad trydanol, strwythurol a gweithredol goleuadau stryd, arwyddion wedi eu goleuo a signalau traffig yng Nghonwy, gan gynnwys cyfrifoldeb am ddylunio, cynllunio a chyflawni rhaglenni gwaith cyfalaf a refeniw y Cefnffyrdd a'r Ffyrdd Sirol. Byddwch yn arwain ar roi system rheoli asedau newydd ar waith ac yn paratoi achosion busnes gogyfer a chynlluniau arbed ynni a thechnoleg System Reoli Ganolog.
Dylai fod gennych radd neu gymhwyster cyfwerth mewn disgyblaeth berthnasol a phrofiad o reoli prosiectau o fewn cynlluniau goleuo stryd gan gynnwys profiad o ymgynghori, cynllunio, comisiynu a rheoli cyllideb. Mae'r swydd yn gofyn am safon uchel o gyfathrebu yn ysgrifenedig ac yn llafar ac am y gallu i roi cyfarwyddyd effeithiol i dimau ac i unigolion yngl?n a materion technegol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Victor Turner 01492 575402
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn