Gwasanaeth: Technoleg GwybodaethAdran: Cefnogaeth
Mae Adran TG Conwy yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddgar i ymuno a'u tim Cymorth TG.
Dylech fod yn aelod tim brwdfrydig ac ymroddedig yn awyddus i symud ymlaen a chynorthwyo wrth gyflwyno gwasanaethau TG i 2500+ o ddefnyddwyr y Cyngor wrth i ni foderneiddio'r ffordd rydym yn gweithio.
Mae dealltwriaeth am ystod o feysydd TG yn hanfodol a dylech allu dangos y gallwch weithio ar eich pen eich hun neu'n rhan o dim i ddarparu technolegau TG ac atebion i wasanaethau o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt. Bydd gennych o leiaf 3 TGAU a lefel A neu gyfwerth mewn TG neu bwnc cysylltiedig.
Bydd hefyd disgwyl i chi weithio ar y Ddesg Gymorth TG.
Mae manylion llawn am y swyddi i'w cael yn y dogfennau Swydd-ddisgrifiad a Manylion am yr Unigolyn.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Neil Payne, Rheolwr Cefnogi TG ar 01492 574210.
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn