Gwasanaeth: Gwasanaeth Datblygu CymunedolAdran: Ffordd o Fyw Egniol a Chreadigol
Mae cyfle wedi codi ar gyfer swydd achlysurol yng Nghanolfan Hamdden Colwyn.
Swydd Achlysurol: Bydd yr oriau gwaith ar sail ad hoc ac o bosibl ar fyr rybudd a bydd yn cynnwys gweithio yn ystod y dydd, min nos, penwythnosau a Gwyliau Banc.
Mae Canolfan Hamdden Colwyn wedi'i leoli ym Mharc Eirias ac yn gweithio yn agos gyda Pharc Eirias sy'n Lleoliad Chwaraeon Mawr, ac yn Ganolfan Adloniant a Chynadledda.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fedru gweithio fel rhan o dim a gwneud ystod o ddyletswyddau gan gynnwys gosod ardaloedd, glanhau, derbyn gorchmynion a gweini ar gwsmeriaid.
Mae profiad blaenorol o drin arian yn hanfodol a byddai profiad blaenorol o weithio mewn sefydliad sy'n eich rhoi dan bwysau o fantais, ond bydd hyfforddiant ar gael.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Neil Williams 01492 575594
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn