Ail hysbysebiad o'r swydd yw hwn ac nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais.
Gwasanaeth: Gwasanaeth Integredig Oedolion a'r Chymynedol Adran: Lles Cymunedol
Bydd deiliad y swydd yn gweithio o fewn y Gwasanaeth Atal Cwympiadau sydd newydd ei ddatblygu i Oedolion yng Nghonwy.
Byddant yn gyfrifol am gynorthwyo wrth ddarparu Gwasanaeth Atal Cwympiadau i drigolion Conwy. Byddant yn asesu ac yn nodi risg drwy'r asesiadau risg aml-ffactor gan roi cyngor i gleientiaid o fewn Conwy. Byddant yn allweddol wrth ddarparu a hwyluso dosbarthiadau cydbwysedd i bobl sydd mewn perygl o gwympo.
Mae'n rhaid i chi greu cynlluniau addas i gwrdd a'r anghenion hynny er mwyn helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain, lleihau risg a hyrwyddo annibyniaeth. I wneud hyn, byddant mewn partneriaeth a defnyddwyr gwasanaeth, eu gofalwyr, yr adran iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector ac asiantaethau tai.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd a sgiliau cyfathrebu ardderchog sy'n gallu gweithio'n dda gyda'r cyhoedd, cydweithwyr ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys atgyfeirio'n briodol at dimau aml-asiantaeth. Mae profiad o gofnodi data ar system TG yn hanfodol a dealltwriaeth o system gronfa ddata PARIS yn fanteisiol, yn ogystal a phrofiad iechyd a gofal cymdeithasol blaenorol.
Gan fod y swydd yn cynnwys cyswllt uniongyrchol a'r cyhoedd, mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Su Lloyd - 01492 577715
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn