Ail hysbysebiad o'r swydd yw hwn.
Gwasanaeth: Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadauAdran: Hawliau Lles
Ariennir y swydd hon gan Gymorth Canser Macmillan.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu cyfathrebu'n dda gyda chwsmeriaid, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill a fydd yn gallu gweithredu fel eiriolwr / cynrychiolydd ar ran cleientiaid.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda phobl yr effeithir arnynt gan ddiagnosis o ganser, eu gofalwyr a'u teuluoedd ac yn eu cefnogi i fanteisio ar eu hawl i fudd-daliadau lles.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu o glinigau cyngor yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Mae'r gallu i weithio mewn partneriaeth gyda gweithwyr gofal iechyd a phroffesiynol eraill yn hanfodol.
Dyletswyddau allweddol y swydd fydd codi ymwybyddiaeth o'r budd-daliadau sydd ar gael, gwneud y mwyaf o incwm ac olrhain cynnydd hawliadau budd-daliadau hyd at eu casgliad, gan gynnwys paratoi cyflwyniadau a chynrychioli mewn tribiwnlysoedd apel lle bo angen.
Mae profiad diweddar o waith achosion budd-daliadau a gwybodaeth am fudd-daliadau lles/ y meini prawf ar gyfer hawlio yn hanfodol.
Gan fod y swydd yn cynnwys cyswllt uniongyrchol a'r cyhoedd, mae'r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol a'r Gymraeg yn ddymunol.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu plant a grwpiau diamddiffyn, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael eu harchwilio a bydd gwiriad GDG yn ofynnol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Cath Richards 01492 576421
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn