Gwasanaeth: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac AddysgAdran: Gwasanaethau Busnes a Thrawsnewid
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ddarparu cymorth gweinyddol o fewn y Tim Cymorth Busnes a Thrawsnewid. Bydd y swyddi yn seiliedig o fewn y Gwasanaeth Rheoli, gan gefnogi Rheolwyr Gwasanaeth.Bydd angen sgiliau trefnu effeithiol, profiad da o gymwysiadau TG, a sgiliau cyfathrebu rhagorol (ysgrifenedig ac ar lafar) arnoch. Elfen allweddol o'r rolau yw rheoli dyddiol, cymorth i gymryd cofnodion ar gyfer fforymau cymhleth a statudol bydd angen sgiliau gwrando, cofnodi a theipio arnoch, a lefel uchel o wydnwch emosiynol oherwydd natur sensitif y meysydd Gwasanaeth.
Byddwch wedi cael addysg i safon TGAU neu safon gyfatebol a bydd gennych y cymhelliant a'r egni i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel. Mae angen lefel uchel o onestrwydd a chyfrinachedd oherwydd natur sensitif y maes gwasanaeth. Gan fod y tim yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn ddymunol ac rydym yn annog ymgeiswyr sy'n rhugl yn y Gymraeg.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Sandra Fellows 01492 575170 neu Sandra.fellows@conwy.gov.uk
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn