Gwasanaeth: Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau AddysgAdran: Gwasanaethau Busnes a Thrawsnewid
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog i ddarparu cefnogaeth gwasanaethau cwsmeriaid yn yr Uned Fusnes. Bydd deilydd y swydd yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y cyhoedd sy'n cysylltu a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaethau Rheoleiddio.
Gan fod y tim yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol.
Byddwch angen profiad da o raglenni TG, a sgiliau trefnu a gwrando rhagorol.
Byddwch wedi cael addysg i safon TGAU neu safon gyfatebol a bydd gennych y cymhelliant a'r egni i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel. Mae angen lefel uchel o onestrwydd, cyfrinachedd a dealltwriaeth o ddiogelu data oherwydd natur sensitif y Gwasanaethau sy'n cael eu cefnogi.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Julie C Williams - 575749 neu Dawn Meek - 575750
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn