Gwasanaeth: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac AddysgAdran: Gwasanaethau Busnes a Thrawsnewid
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ddarparu cymorth gweinyddol o fewn y Tim Cymorth Busnes a Thrawsnewid. Bydd y swydd yn seiliedig o fewn y Gwasanaeth Rheoli, gan gefnogi'r Cyfarwyddwr dros Ofal Cymdeithasol ac Addysg.
Bydd angen sgiliau trefnu effeithiol, profiad da o gymwysiadau TG, a sgiliau cyfathrebu rhagorol (ysgrifenedig ac ar lafar) arnoch.
Elfen allweddol y rol yw rheoli dyddiaduron, cymorth i gymryd cofnodion ar gyfer fforymau cymhleth a statudol. Bydd angen sgiliau gwrando, cofnodi a theipio wedi'u profi arnoch, a lefel uchel o wydnwch emosiynol oherwydd natur sensitif meysydd y Gwasanaeth.
Byddwch wedi cael addysg at safon TGAU neu safon gyfatebol a bydd gennych y cymhelliant a'r egni i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel. Mae angen lefel uchel o onestrwydd a chyfrinachedd oherwydd natur sensitif y maes gwasanaeth.
Gan fod y tim yn gweithio mewn ardal ddwyieithog mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Sandra Fellows 01492 575170 neu Sandra.fellows@conwy.gov.uk
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn