Gwasanaeth: Gwasanaethau Cymdeithasol - Plant, Teuluoedd a DiogeluAdran: Cefnogi Teuluoedd ac Ymyrraeth
Mae'r Tim Ar Ddyletswydd Mewn Argyfwng yn darparu gwasanaeth i blant a theuluoedd, oedolion diamddiffyn a phobl a phroblemau iechyd meddwl, y tu allan i oriau gwaith arferol. Y shifftiau yw 5pm-9am ddydd Llun i ddydd Gwener (16 awr), 9am to 9am dydd Sadwrn a dydd Sul (24 awr) a gwyliau banc: 2 shifft; 9am - 5pm a 5pm - 9am.
Byddwch ar alwad yn eich cartref eich hun ac mae'n rhaid i ni fedru cysylltu a chi dros y ffon bob amser yn ystod cyfnod y shifft, ac mae'n rhaid i chi fedru bod yn barod i weithio os yw'r sefyllfa yn mynnu hynny.
Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol lefel 3 profiadol i ymuno a'r tim. Mae gradd gwaith cymdeithasol, DIPSW, CQSW, neu gymhwyster cyffelyb a cymhwyster 'AMHP' a gwybodaeth gadarn am ddeddfwriaeth berthnasol yn hanfodol. Mae profiad blaenorol o ymdrin a sefyllfaoedd argyfwng yn hanfodol hefyd.
Oherwydd bod y tim yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg yn dymunol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Anne Flanagan, Cydlynydd Tu Allan i Oriau ar 01492 575158
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn