Gwasanaeth: Gwasanaeth Datblygiad CymunedolAdran: Cymunedau yn Gyntaf
Prosiect a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru ac a ariennir gyda chyllid Ewropeaidd yw Cymunedau Dros Waith (CdW) sy'n anelu at daclo anghydraddoldebau a diweithdra hirdymor. Mae i'r prosiect strwythur amlasiantaeth arloesol sy'n cynnwys staff wedi'u secondio o'r Adran Waith a Phensiynau fel Ymgynghorwyr Oedolion ac Ieuenctid ynghyd a'r tim CdW sydd wedi'i leoli o fewn Clwstwr Cymunedau'n Gyntaf Conwy,
Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar leihau nifer y bobl rhwng 16 - 24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant a chynyddu cyflogadwyedd oedolion 25 oed a throsodd sy'n economaidd anweithgar ac wedi bod yn ddi-waith ers amser maith sy'n wynebu rhwystrau cymhleth o ran cael eu cyflogi.Bydd Mentor Cyflogaeth Ieuenctid Cymunedau Dros Waith yn gyfrifol am ddarparu mentora dwys ar gyfer pobl o dan 25 oed, er mwyn cefnogi Blaenoriaeth 3 ymgyrch CdW.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Libby Duo - (01492) 575509
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn