Ail hysbysebiad o'r swydd yw hwn ac nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais.
Gwasanaeth: Refeniw a Budd-daliadauAdran: Ymyriadau/Gordaliadau
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn gallu cyfathrebu'n dda a chwsmeriaid, cydweithwyr ac asiantaethau eraill.
Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau rhagorol gwasanaeth i gwsmeriaid, gallu defnyddio cyfrifiadur a'r gallu i weithio mewn amgylchedd prysur.
Mae prif ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys adolygu hawliadau am Fudd-dal Tai a Lleihau Treth y Cyngor, gan gynnwys gofyn am wybodaeth a thystiolaeth bellach, ailasesu hawliadau budd-dal, (a allai arwain at dalu gormod neu ddim digon o fudd-dal) a sicrhau bod y 'budd-dal cywir' yn cael ei thalu.
Yn bennaf, mae'r swydd wedi'i lleoli mewn swyddfa, ond efallai y bydd gofyn i chi o bryd i'w gilydd ymweld a chwsmeriaid gartref i adolygu eu hawl budd-daliadau.
Gan fod y swydd yn cynnwys cyswllt uniongyrchol a'r cyhoedd, mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol a Saesneg yn hanfodol.
Byddai gwybodaeth am ddeddfwriaeth Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor yn ddymunol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Cath Richards - 01492 576421
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn