Ail hysbysebiad o'r swydd yw hwn ac nid oes angen i ymgeisqyr blaenorol wneud cais.
Gwasanaeth: Gwasanaeth Integredig Oedolion a'r ChymynedolAdran: Tim Pobl Hyn Gwaith Cymdeithasol Ysbyty
Rydym yn dymuno penodi pobl ymrwymedig a brwdfrydig i weithio o fewn ein Timau Cefnogaeth Gymunedol. Bydd y deilydd swydd yn gweithio gyda phobl hyn yn byw yn eu cartrefi eu hunain, elfen bwysig o'r rol yw cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gynnal eu hannibyniaeth.Mae'r Timau Cefnogi Cymunedol yn darparu gwasanaethau 365 diwrnod y flwyddyn. Felly, rydym yn chwilio am unigolyn hyblyg, a fyddai'n fodlon gweithio oriau anghymdeithasol er mwyn diwallu anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
Mae'r gallu i sgwrsio'n gartrefol yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda defnyddwyr gwasanaeth yn hanfodol; mae'r gallu i ysgrifennu'n Saesneg yn ddymunol ac yn fanteisiol yn Gymraeg.
Bydd gofyn i chi ymgymryd a gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyflog: G01 GBP 13,614 - GBP 15,207 pro rata. Ar ol cwblhau'r fframwaith cyflwyno gofal cymdeithasol yn llwyddiannus, bydd yr aelod o staff yn cael G02 GBP 15,523 - GBP 16,231
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Helen Evans - 01492 577790
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn