Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Gwasanaeth: Theatrau a'r Ganolfan GynadleddaAdran: Economi a Lle
Venue Cymru yw Canolfan Adloniant a Chynadledda prysuraf y rhanbarth. Mae'r Venue yn cynnwys awditoriwm 1500 sedd, Arena sydd a lle i 2500 yn sefyll ynghyd a chyfleusterau Cynadledda ac Arddangos ardderchog. Rydym rwan yn chwilio am Gymhorthydd Bwyd a Diod cymwys i ymuno a'n tim gwasanaethau blaen y ty.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn bennaf yn y tai bwyta ac ar y gwasanaeth gwledda. Byddai profiad blaenorol mewn naill ai bwytai neu sefydliadau bistro yn fanteisiol fodd bynnag bydd hyfforddiant yn cael ei roi.
Rhaid i ddeiliad y swydd allu gweithio fel rhan o dim a bydd angen iddynt weithio ym mhob man blaen ty'r adran arlwyo, yn cynnal amrywiaeth o ddyletswyddau'n cynnwys paratoi gwahanol fannau, glanhau, gweithio tu ol i'r bar a gweini yn y bwyty.
Mae profiad o ddelio ag arian yn hanfodol, a phrofiad o weithio mewn amgylchiadau prysur ac o dan bwysau hefyd.
Byddai profiad o weithio mewn swydd debyg hefyd yn fantais ond fe roddir hyfforddiant.
I sicrhau darpariaeth ddwyieithog ddigonol o fewn yr adain, mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae hon yn swydd rhan amser parhaol gyda'r oriau gweithio ar sail cytundeb oriau blynyddol, gan weithio ar gyfartaledd o 25 awr yr wythnos, wedi'i drefnu yn unol a'r system a gytunwyd arni o weithio ar sail rota shifftiau, ac yn cynnwys gweithio ar benwythnosau, nosweithiau a gwyliau banc.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Ben Hankey - 01492 879771
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn