Gwasanaeth: Gwasanaeth Integredig Oedolion a'r ChymynedolAdran: Gwasanaethau Pobl Hyn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty
Cafodd Llys Elian ei achredu yn ddiweddar fel gwasanaeth Glöyn Byw 'Dementia Care Matters'.
Mae Llys Elian yn gartref preswyl 27 gwely ar gyfer pobl hyn gyda Dementia, mae yna dri thy ar gyfer byw ynddynt yn barhaol ac un ty gofal seibiant a chanolfan ddydd.
Rydym yn dymuno penodi unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i weithio yn ein cartref preswyl. Eich gwaith fydd cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ddefnyddwyr gwasanaeth ar bob agwedd o dasgau bywyd o ddydd i ddydd fel gofal personol, cynnal annibyniaeth, rhoi meddyginiaeth, a diddordebau a sgiliau bywyd.
Bydd disgwyl i chi fod yn gyfathrebwr da a byddwch yn cyfathrebu gydag amryw o bobl fel defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a ffrindiau yn ogystal a gweithwyr gofal proffesiynol eraill fel Meddygon Teulu a Gweithwyr Cymdeithasol.
Bydd disgwyl i chi weithio mewn tim i gynnal a gwella lles defnyddwyr gwasanaeth - rhoi gwybod i staff uwch a rheolwyr am unrhyw bryderon.
Mae'n rhaid i'r gofalwr nos ddangos ei fod yn gallu sicrhau diogelwch y defnyddwyr gwasanaethau a'r adeilad, drwy wybod am y trefnau argyfwng y cytunwyd arnynt a bod yn hyderus i'w gweithredu.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn empathetig, ac yn angerddol am ddarparu gofal rhagorol.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol; mae'r gallu i ysgrifennu'n Saesneg yn hanfodol ac yn ddymunol yn Gymraeg.
Bydd gofyn i chi ymgymryd a gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Christine Williams - 01492 577749
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn