Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Mae Cyngor Conwy yn chwilio am unigolyn sy'n gallu cymell ei hun i gefnogi adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau i ddarparu gwasanaeth heb ei ail i drigolion ac ymwelwyr Conwy.
Mae'r prif ddyletswyddau'n cynnwys:
Gwrando yn amyneddgar ac arddangos empathi gyda sefyllfa'r cwsmer a chyfleu awydd gwirioneddol i helpu a chefnogi
Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer holl ymholiadau cwsmeriaid
Bydd angen safon dda o addysg arnoch, gyda sgiliau llythrennedd clir. Bydd gennych y gallu i gyflawni NVQ lefel 2 mewn Gofal Cwsmer. Bydd gennych sgiliau gwrando ardderchog, gan ddangos y gallu i wrando'n amyneddgar a chydymdeimlo a sefyllfa'r cwsmer. Mae sgiliau TG a bysellfwrdd cryf yn hanfodol.
Jane Roberts - 01492575208
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn