Gwasanaeth: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Chymunedol I OedolionAdran: Lles Cymunedol
Mae Tim Mynediad Conwy yn rhan o'r Pwynt Mynediad Sengl ac yn helpu unigolion, eu teuluoedd ac unrhyw weithiwr proffesiynol sydd yn eu cefnogi, i gael gafael ar yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir. Mae aelodau'r tim yn gallu hel gwybodaeth at ei gilydd, derbyn manylion gan bobl eraill ac adnabod y tim mwyaf priodol i gefnogi unigolyn i aros mor annibynnol ag y bo modd.
Mae aelodau'r tim yn gweithredu fel pwynt cyswllt rhwng gwahanol wasanaethau a thimau, gan sicrhau bod materion yn cael eu trosglwyddo yn briodol. Gall sgyrsiau gyda'r cyhoedd fod yn anodd ac emosiynol; felly bydd ar ddeilydd y swydd angen gwydnwch personol cryf.
Rydym yn chwilio am unigolyn all weithio mewn tim. Rhywun sydd a sgiliau cyfathrebu a TG ardderchog. Mae profiad o ddefnyddio Meddalwedd Microsoft Office yn hanfodol. Mae angen i'r unigolyn fod yn wydn a dylai allu blaenoriaethu eu llwyth gwaith gyda thim prysur.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol.
Cysylltwch a Victoria Hughes ar 01492 576336 i gael sgwrs anffurfiol.
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn