Gwasanaeth: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Chymunedol I OedolionAdran: Anableddau
Mae'r swydd hon yn eithriad a ganiateir o dan baragraff 1 atodlen 9 Deddf Cydraddoldeb 2010'
'Mae'n ofyniad galwedigaethol i'r weithwraig fod yn fenyw, oherwydd mae'r swydd yn golygu rhoi gofal personol preifat i ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n fenywod.' Mae Tim Anabledd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phrofiadol i ymuno a'r tim Byw yn y Gymuned.
Mae'r tim Byw yn y Gymuned yn darparu cymorth i prosiect 24 awr i oedolion gydag anableddau er mwyn eu galluogi i gael mynediad at weithgareddau ac i'w cynorthwyo i aros yn eu cartrefi eu hunain.
Bydd angen i'r gweithiwr newydd fod yn ymwybodol o'r materion sy'n effeithio ar ddefnyddwyr gwasanaeth yn y lleoliad gwasanaeth 24 awr, e.e. hawliau a chyfrifoldebau, dewis, cyfrinachedd.
Rydym yn chwilio am rywun a all gynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth i weithio tuag at gyflawniadau annibynnol a chyrhaeddiad parhaus o sgiliau a nodau, gan gynnwys sgiliau byw bob dydd.
Mae dyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth na allant fod yn gwbl gyfrifol am eu hanghenion personol eu hunain.
Bydd y person llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dim i asesu ac i baratoi rhaglenni i ddiwallu anghenion unigolion a chofnodi a throsglwyddo gwybodaeth i'r bobl berthnasol
Mae parodrwydd i weithio ar eich menter eich hun, cymryd cyfrifoldeb a rheoli unrhyw heriau mewn modd priodol yn hanfodol, yn ogystal a'r gallu i weithio fel rhan o dim.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n Saesneg yn hanfodol, ac mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.
Bydd penodiad i'r swydd hon yn amodol ar 2 eirda boddhaol a gwiriadau GDG.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Mandy Pritchard, 01492 577657
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn