Gwasanaeth: Datblygu CymunedolAdran: Diwylliant a Gwybodaeth
Llyfrgell Llandudno
Isafswm cyflog:16-17 oed - GBP 3.87 yr awr18-19 oed - GBP 5.30 yr awr
Ydych chi'n hoffi llyfrau a darllen? Ydych chi'n mwynhau cyfarfod a phobl o bob oed?Oes arnoch chi eisiau profiad gwaith gwerthfawr a datblygu'ch sgiliau drwy weithio mewn llyfrgelloedd prysur? Oes gennych chi raddau TGAU da (neu gymhwyster cyfwerth) a sgiliau cyfrifiadurol da?Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o lyfrgell Llandudno. Mae'r amserlen yn cynnwys gweithio gyda'r hwyr un noson tan 7pm, a gweithio dydd Sadwrn.Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd gyfle i ymgymryd a hyfforddiant ac ennill tystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaethau Llyfrgelloedd, Archifau a Gwybodaeth.Oherwydd natur y gwaith yma, bydd gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn angenrheidiol.
Oherwydd natur y cyllido ar gyfer Prentisiaethau gan Lywodraeth Cymru, rydym ond yn gallu ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr sydd rhwng 16 a 19 mlwydd oed.
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Anne Thomas - 01492 574010
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn