Gwasanaeth: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac AddysgAdran: Tim Gwaith Maes
Dyma gyfle i weithiwr cymdeithasol cymwys sydd a phrofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd i ymuno a thim arloesol ar adeg o foderneiddio.
Rydym yn chwilio am unigolyn gydag egni a brwdfrydedd er mwyn ychwanegu at y tim cefnogol a phrofiadol presennol. Byddwch yn cael goruchwyliaeth ac arweiniad proffesiynol, a byddwch yn cael cynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad pellach.
Cyfrifoldebau allweddol y swydd fydd rhoi cefnogaeth i ofalwyr maeth gan ddefnyddio dull fydd yn ysgogi ac yn ennyn brwdfrydedd. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda hyfforddi, recriwtio ac asesu gofalwyr maeth. Gan fod yna brinder Gofalwyr maeth ar hyn o bryd bydd y swydd hon yn canolbwyntio i ddechrau ar asesu darpar ofalwyr maeth er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu ein dewis o ofalwyr maeth ar gyfer ein Plant sy'n Derbyn Gofal. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Einir Hinson, Rheolwr Gwasanaeth Tim Asiantaeth Faethu Conwy ar 01492 575 111.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Einir Hinson 01492 575111 neu einir.hinson@conwy.gov.uk
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn