Gwasanaeth: Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol IntegredigAdran: Gwasanaethau Dydd i'r Anabl
Mae arnom eisiau penodi pobl brwdfrydig ac ymroddgar i weithio yn ein tim ym Mhlanhigfa Bryn Euryn fel cynorthwywyr gwerthu ar benwythnosau.
Graddfa a chyflog presennol y swyddi hyn yw G02 - GBP 15,523 - GBP 16,231 pro rata
Mae'r swyddi ar gyfer hyd at uchafswm o 13 awr yr wythnos ar sail rota ar adegau penodol o'r flwyddyn pan fo'r blanhigfa ar agor ar benwythnosau yn unig gan gynnwys gwyliau banc.
Pwrpas y swyddi yw gweithio mewn planhigfa arddwriaethol, gan wasanaethu aelodau'r cyhoedd, cynnig cyngor ac ateb unrhyw ymholiadau gan gwsmeriaid.
Byddai profiad mewn garddwriaeth neu ddiddordeb brwd neu wybodaeth am arddio yn fanteisiol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Bydd gofyn i chi ymgymryd a gwiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais am y swydd hon trwy ddefnyddio'r ffurflen gais safonol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Mike Roberts 07733013297
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn