Gwasanaeth: Gwasanaethau Rheoleiddio a ThaiAdran: Strategaeth Tai
Mae'r Tim Strategaeth Tai yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i gefnogi'r tim wrth roi'r Strategaeth Dai Leol a pholisiau a gweithgareddau tai cysylltiedig ar waith.
Bydd deilydd y swydd yn rhoi cymorth i'r Tim i gryfhau cysylltiadau a phartneriaid allanol megis Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, y sector rhentu preifat a datblygwyr.
Bydd dyletswyddau'r swydd hefyd yn cynnwys:* cynorthwyo wrth lunio gwybodaeth am berfformiad ac ystadegau ar feysydd allweddol ar draws y gwasanaeth tai * darparu cymorth gweinyddol i Bartneriaeth Dai Strategol y Sir* cynhyrchu deunyddiau cyhoeddusrwydd fel y bo'n briodol a chynnal gwefan y Gwasanaethau Tai.
Bydd hefyd yn gweithio gyda thimau eraill yn ol y gofyn, gan ymgymryd a gwaith sy'n ymwneud a gweithredu Rhentu Doeth Cymru a chynorthwyo Swyddogion Gorfodi Tai.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio yn y Swyddfeydd Dinesig, Bae Colwyn.
Bydd gan yr ymgeisydd brofiad o fonitro perfformiad a chynhyrchu gwybodaeth reoli, ac yn ddelfrydol bydd ganddynt brofiad o weithio mewn sefydliad tai. Mae sgiliau TG a chyfathrebu rhagorol hefyd yn hanfodol yn ogystal a'r gallu i weithio dan bwysau a defnyddio eich menter eich hun.
Caiff y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ei ystyried yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Wendy Dearden, Housing Strategy Manager, 01492 574179
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn