Gwasanaeth: Cyfarwyddiaeth Economi a LleAdran: Digwyddiadau Corfforaethol, Marchnata, Cyfathrebu a Chwsmeriaid
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am weithiwr proffesiynol deinamig ym maes cyfathrebu sydd ag egni a chymhelliant i gynllunio a darparu cyfathrebu a marchnata i budd-ddeiliaid i gefnogi rhaglen foderneiddio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Byddwch yn rhoi cyngor cyfathrebu strategol i wasanaethau o fewn yr Awdurdod er mwyn sicrhau cysondeb negeseuon a sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer gweithio ar y cyd yn cael eu nodi. Fel aelod allweddol o dim y Rhaglen Foderneiddio byddwch yn cefnogi cydweithwyr ar draws y sefydliad i gyfathrebu a'u budd-ddeiliaid mewnol ac allanol.
Bydd gennych brofiad yn gweithio mewn disgyblaeth cyfathrebu a marchnata a bydd gennych ddealltwriaeth dda o arferion Llywodraeth Leol. Bydd gennych y gallu i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cyfathrebu, wrth ddangos hunan-gymhelliant ynghyd a barn ragorol.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Rachael Gill, 01492 575941
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn