Ail hysbysebiad yw hon ac nid oes angen I ymgeiswyr blaenorol nweud cais.
Gwasanaeth: Plant, Teuluoedd a Diogelu Adran: Plant sy'n Derbyn Gofal
Yng Ngwasanaethau Plant Conwy mae'r timau gwaith maes, arbenigwyr a'r uwch dim rheoli oll ar un safle ym Mae Colwyn, sy'n help mawr i'r staff o ran cyfathrebu, cynllunio, ymyrraeth mewn argyfwng a datrys problemau.
Mae'r Tim Parhad yn cynnig gwasanaeth i blant sy'n derbyn gofal gartref neu gan yr Awdurdod Lleol o fewn gofal maeth neu breswyl. Rydym ni'n awyddus iawn i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol ymroddedig sy'n frwdfrydig dros ddarparu arferion gwaith cymdeithasol ardderchog i blant a phobl ifanc mewn gofal. Y swyddogaeth graidd fydd sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal gan Gonwy yn tyfu i fyny yn ddiogel, yn hapus ac yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial. Fel y cyfryw, bydd eich rol yn golygu meithrin perthynas agos gyda'r plant sy'n rhan o'ch llwyth achosion. Disgwylir i chi gynnal ymweliadau statudol a phlant sy'n derbyn gofal, gan sicrhau bod ganddynt asesiadau diweddar sy'n llywio eu cynllun gofal. Dylai pob cynllun fod yn seiliedig ar ganlyniadau. Swyddogaeth bwysig arall yw annog cyswllt gyda'r teulu biolegol (pan fo'n ddiogel ac yn briodol). Bydd disgwyl i chi hefyd gyflawni tasgau allweddol fel y nodir ar Adolygiad Derbyn Gofal/Llwybr y plentyn. Mae Gweithwyr Cymdeithasol y Tim Parhad hefyd yn ymgymryd a gwaith llys amrywiol.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol Parhad bydd yn rhaid i chi weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, yn ogystal a gofalwyr maeth a chartrefi preswyl. Mae gennym ni ystod o wasanaethau cefnogi mewnol i'n helpu i wneud hyn. Mae gan yr holl blant sy'n derbyn gofal hefyd fynediad at Gydlynydd Plant sy'n Derbyn Gofal ym maes Addysg ac Iechyd, felly byddwch hefyd yn gweithio'n agos ac yn cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol y meysydd hyn.
Yng Nghonwy mae gennym ni bwyslais cryf ar sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant sy'n derbyn gofal - yn union fel sydd gennym ni ar gyfer ein plant eu hunain. Rydym ni'n chwilio am weithiwr cymdeithasol deinamig gyda phrofiad o weithio gyda phlant dan drefniadau parhad tymor hir. Rydym ni'n cynnig goruchwyliaeth reolaidd gydag arferion adlewyrchu ac adolygiadau datblygu perfformiad yn ogystal ag amrywiol gyfleoedd hyfforddiant gan gynnwys mynediad i ddyfarniadau ol-gymhwyso. Mae gan aelodau'r tim amrywiaeth o brofiad ac anogir cefnogaeth cyfoedion.
Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gyfatebol, profiad blaenorol mewn gofal plant a gwybodaeth gadarn o ddeddfwriaeth berthnasol yn hanfodol.
Gan fod Conwy'n cynnwys ardaloedd mawr gwledig, mae'r gallu i yrru a'r defnydd o gar yn angenrheidiol, neu'r gallu i deithio o fewn yr ardal i fynd i apwyntiadau. Telir cyfradd milltiroedd Achlysurol i'r deiliad swydd. Gan fod y tim yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn ddymunol.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: Mark Devereux 01492 575296
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn