Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol
Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu
Mae timau gweithredol, arbenigwyr a thim uwch reolwyr Gwasanaethau Plant Conwy i gyd yn gweithio ar yr un safle ym Mae Colwyn sy'n helpu staff yn fawr gyda chyfathrebu, cynllunio, ymyrraeth mewn argyfwng a datrys problemau.
Mae'r Tim Gwaith Maes yn cynnig gwasanaeth i blant sy'n derbyn gofal, plant sydd angen eu diogelu ac yn rhoi cefnogaeth tymor hirach i deuluoedd. Mae gennym ystod eang o wasanaethau cefnogi mewnol i'n helpu i wneud hyn. Maent yn cynnwys Tim Ymyriadau Teuluol gyda gweithwyr therapiwtig ac arbenigwyr addysg ac iechyd.
Rydym yn chwilio am weithiwyr cymdeithasol efo profiad o weithio gyda plant a theuluoedd i ymuno a'n tim cynnal ac asesu.
Rydym yn cynnig goruchwyliaeth gyson ac adolygiadau datblygu perfformiad yn ogystal a gwahanol gyfleoedd hyfforddi, gan gynnwys mynediad i ddyfarniadau CPEL. Mae gan aelodau'r tim amrywiaeth o brofiadau ac rydym yn annog cyfoedion i gefnogi'i gilydd.
Mae gradd mewn gwaith cymdeithasol, cymhwyster CQSW neu DIPSW, a phrofiad blaenorol o ofal plant a gwybodaeth gadarn o ddeddfwriaethau perthnasol yn hanfodol.
Gan fod ardaloedd gwledig eang yng Nghonwy,mae angen gallu gyrru a defnyddio car, neu allu teithio ar draws yr ardal ar gyfer apwyntiadau.
Gan fod y tim yn gweithio mewn ardal ddwyieithog byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol a Saesneg yn hanfodol.I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Rhiannon Lloyd ar 01492 575111.
Swydd Ddisgrifiad a Manylion Unigolyn