Lleoliad gwaith: Llys Elian
Mae Llys Elian yn gartref preswyl 27 gwely ar gyfer pobl hyn sydd yn byw a Dementia, mae yna dri thŷ ar gyfer byw ynddynt yn barhaol ac un tŷ gofal seibiant a chanolfan ddydd.
Oherwydd secondiad yn y gwasanaeth rydym yn dymuno penodi Rheolwr Cynorthwyol ymrwymedig a brwdfrydig i gefnogi’r Rheolwr Cofrestredig i arwain a rheoli'r Gwasanaeth am gyfnod penodol o 2 flynedd.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn empathetig, yn angerddol am ddarparu gofal rhagorol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, trefnu ac arwain da, a rhaid iddynt fod yn ddigynnwrf, yn hyblyg ac yn gallu addasu i sefyllfaoedd a blaenoriaethau sy'n newid.
Mae cyfrifoldebau fel Rheolwr Cynorthwyol yn cynnwys sicrhau bod y gefnogaeth a ddarperir o'r safon uchaf ac yn cydymffurfio â holl reoliadau a gwneud yn siŵr bod safonau yn cael eu cynnal, gan gyflawni hyn drwy ddatblygu a chefnogi tîm ymroddedig o staff.
Eich gwaith fydd cefnogi y tim o staff i gynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion ar bob agwedd o dasgau bywyd ddydd i ddydd fel gofal personol, cynnal annibyniaeth, rhoi meddyginiaeth, a diddordebau a sgiliau bywyd.
Fel y Rheolwr Gofal, mae’n rhaid i chi ddangos y gallu i sicrhau diogelwch unigolion, staff a’r adeilad drwy sicrhau ymwybyddiaeth a hyder yn y gweithdrefnau a'r protocolau argyfwng y cytunwyd arnynt.
Mae'r profiad o lunio cynlluniau cyflwyno gwasanaeth ac asesiadau risg yn hanfodol.
Bydd disgwyl i chi fod yn gyfathrebwr da a byddwch yn cyfathrebu gydag amryw o bobl or unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth, teuluoedd a ffrindiau yn ogystal â gweithwyr gofal proffesiynol eraill fel Meddygon Teulu a Gweithwyr Cymdeithasol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol; mae’r gallu i ysgrifennu’n Saesneg yn hanfodol ac yn ddymunol yn Gymraeg.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Christine Williams, Rheolwr (01492577749, Christine.williams@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.
Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.