Lleoliad gwaith: Conwy
Byddwch yn cefnogi unigolion gydag anableddau dysgu a chorfforol ar sail un i un i gael dewis, rheolaeth a llais ac i’w cefnogi i ddatblygu sgiliau tuag at eu dyfodol hirdymor.
Byddwch yn gallu cynllunio a gweithredu gweithgareddau llawn dychymyg, a fydd hefyd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau.
Bydd arnoch chi angen dealltwriaeth fod rhai pobl yn cyfathrebu eu teimladau gydag ymddygiad. Rydym yn chwilio am y rhai sydd ag ymagwedd ‘gallu gwneud’ ac sy’n gallu addasu eu sgiliau.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm yn ein Gwasanaethau Dydd ac allan yn y gymuned. Byddwch yn gallu annog a chefnogi pobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddiddordebau a gweithgareddau arbennig sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles, fel mynd am dro, cymryd rhan mewn cwisiau, dysgu sgiliau TG, nofio, pobi, coginio, ffotograffiaeth a chrefftau.
Bydd y dyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo unigolion na allant fod yn gwbl gyfrifol am eu hanghenion personol eu hunain a gall hynny gynnwys codi a chario.
Fel gweithiwr cefnogi Gwasanaeth Dydd bydd arnoch chi angen meddwl agored a chreadigrwydd, gan y byddwch chi’n cynorthwyo pobl i gyrraedd nodau, yn ogystal â chynorthwyo’r tîm i ddarparu profiad diogel, gofalgar ac addysgol ar gyfer pobl ag anableddau, fel eu bod yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl.
Mae’n rhaid cael gwytnwch yn ein sector gofal. Mae pob un ohonom yn cael dyddiau da a dyddiau gwael, ac felly mae gallu aros yn ddigynnwrf a chefnogol yn hollbwysig.
Efallai y bydd gofyn i chi weithio rhywfaint o oriau anghymdeithasol megis ar benwythnosau a gyda’r nos, ond byddwn yn gweithio gyda chi fel bod gennych chi gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.
Mae'r swydd hon angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Byddwch yn cwblhau rhaglen gyflwyno ac yn gallu gwneud hyfforddiant arbenigol a fydd yn rhoi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch er mwyn i chi roi’r cyfleoedd gorau posibl i’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.
Y pethau gorau am y swydd yn ôl ein staff: • Gweld yr unigolion rydym yn eu cefnogi yn cyrraedd eu nodau • Annog unigolion rydym ni’n eu cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau • Annog unigolion rydym ni’n eu cefnogi i leisio eu barn o ran beth sydd arnyn nhw eisiau ei wneud • Gweld yr unigolion a gefnogwn yn magu hyder• Mae’n deimlad braf clywed y bobl rydym ni’n eu cefnogi yn dweud eu bod wedi mwynhau eu hunain yn y ganolfan. • Mae llawer o hwyl a chwerthin i’w gael.
Os ydych chi’n chwilio am yrfa wobrwyol a boddhaus ac arnoch chi eisiau gwybod mwy, cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Rebecca Humphreys, Rheolwr Tîm (01492 576653, Rebecca.humphreys@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.
Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.