Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Os ydych chi’n arweinydd cryf, yn gyfathrebwr ardderchog ac yn credu eich bod yn broffesiynol chwilfrydig, yna mae rôl Rheolwr Adain yn addas i chi.
Byddwch chi’n arwain y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob pryder diogelu posibl o ran plant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghonwy. Mae’n wasanaeth amlasiantaeth sy’n cydweithio i rannu gwybodaeth a phrofiad i nodi pryderon diogelu yn gynnar a darparu fforwm cadarn er mwyn gwneud penderfyniadau.
Byddwch chi’n arwain y tîm o Reolwyr, Gweithwyr Cymdeithasol, Swyddogion ar Ddyletswydd a Gweithwyr Ymyrraeth i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac ymatebol.
Bydd gofyn i chi gydymffurfio â’r cyfrifoldebau diogelu statudol a chefnogi gwelliannau a datblygiadau gwasanaeth i sicrhau bod y tîm yn datblygu’n barhaus a’u bod wedi’u cymell i fod ar y blaen o ran unrhyw dueddiadau sy’n dod i’r amlwg a gweithredu ymateb cynnar.
Byddwch chi’n cael cefnogaeth Rheolwr Gwasanaeth gyda sesiynau goruchwylio ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd. Bydd tîm AD a thîm gweithlu ymroddedig ar gael i chi. Mae Conwy yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant gwych a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich dyheadau o ran gyrfa.
Cewch gyfle i weithio’n hyblyg o gartref ac o swyddfeydd newydd sbon ‘Coed Pella’ ym Mae Colwyn, sy’n caniatáu i chi gynnal cysylltiad ag adrannau partner gan gynnwys Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg, Tai a llawer mwy. Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd a gallwn gynnig amryw drefniadau gweithio’n hyblyg, megis pythefnos 9 diwrnod. Gellir trafod hyn ymhellach yn y cyfweliad.
Yn gyfnewid am hyn, gallwch ddisgwyl: • Hawl i wyliau hael • Cyfleoedd i weithio'n hyblyg• Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol • Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i’r gwaith• Gostyngiadau ac arian yn ôl mewn siopau stryd fawr lleol. • Cyfle i brynu cynllun arian iechyd i hawlio arian tuag at gostau deintyddol, sbectol, therapi ac ati.• Mynediad am ddim ddydd a nos i raglen cymorth gweithwyr sy’n cynnig cyngor a chymorth.
I fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i chi feddu ar radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster gwaith cymdeithasol cyfwerth, CQSW neu DipSW gydag o leiaf 5 mlynedd o brofiad ar ôl cymhwyso gyda gwybodaeth dda am ddeddfwriaeth berthnasol.
O ganlyniad i natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Rehema Gakoko ar 01492 575959 neu Karen Smith ar 01492 575329
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, sy’n golygu ein bod yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg, rhai sy’n dysgu Cymraeg a siaradwyr Saesneg.
Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.